Archwiliwch yr Awyr Agored yr Haf Hwn!

Ewch allan i ddarganfod parciau a mannau gwyrdd anhygoel Caerdydd gyda'n llyfryn gweithgareddau Archwilio'r Awyr Agored . Cwblhewch bob un o'r 27 her sy'n addas i deuluoedd, gan gynnwys pentyrru cerrig, ffyn pooh, gweld adar, a mwy.

Dewch â'ch llyfryn gyda chi a thiciwch bob gweithgaredd wrth i chi fynd – mae rhywbeth i bob oed ei fwynhau.

Casglwch eich copi printiedig am ddim yn Niwrnod Chwarae Cenedlaethol Caerdydd ym Mharc Trelai ar 29 Gorffennaf.

Methu dod? Lawrlwythwch fersiwn ddigidol am ddim isod, sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Fersiwn Saesneg
Fersiwn Cymraeg

Awgrym defnyddiol: lawrlwythwch y ffeil i'ch dyfais i gael mynediad at y blychau gwirio rhyngweithiol.

Eisiau ein helpu i wneud yr adnodd hyd yn oed yn well? Ystyriwch lenwi'r ffurflen adborth lawn isod.

Ffurflen Adborth