Mae Cymuned y Met yn cefnogi pobl anabl o bob oed, i ddod o hyd i glybiau a sesiynau lleol sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant anabledd a darparu cyfleoedd o safon.
Ein Cenhadaeth
Sicrhau bod gan bob person anabl yng Nghaerdydd y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ystyrlon a phriodol fel cyfranogwr, gwirfoddolwr neu hyfforddwr.
Mae cynyddu nifer y cyfleoedd gweithgarwch corfforol cynhwysol yn allweddol i roi ystod eang o opsiynau i bobl anabl ddewis ohonynt. Drwy gefnogi clybiau lleol i ddod yn fwy cynhwysol, gallwn helpu i gau'r bylchau mewn cyfranogiad a grëwyd gan anfantais ac anghydraddoldeb.
~ Joanna Coates-McGrath, Cydgysylltydd Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Anabledd
Hwyl i'r Teulu
Mae Hwyl i'r Teulu yn annog teuluoedd i dreulio amser o safon gyda'i gilydd drwy weithgarwch corfforol a chwarae. Mae'r sesiynau wedi'u hanelu at deuluoedd â phlant rhwng 3 a 10 oed ac yn dysgu amrywiaeth o gemau hwyliog y gall teuluoedd eu chwarae gartref.
Cysylltiadau â phartneriaid
Chwaraeon Anabledd Cymru
Erbyn hyn mae dros 750 o glybiau a sesiynau ledled Cymru sy'n darparu amrywiaeth enfawr o weithgareddau, o Saethyddiaeth i bêl-droed cadair olwyn rydym yn siŵr y byddwch yn dod o hyd i lawer i'w wneud yn eich ardal.
Fideo
Ewch i'n Sianel YouTube