Drwy amrywiol brosiectau mae Cymuned y Met yn helpu teuluoedd i dreulio mwy o amser o safon gyda'i gilydd a darganfod manteision teuluol chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chwarae.

 

Ein Cenhadaeth

Lleihau'r bylchau mewn cyfranogiad a grëir gan anfantais ac anghydraddoldeb drwy ryddhau manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella iechyd a lles.

2AF437BE-0463-43C7-A1D8-248C27766E26.jpeg

Rydym yn cefnogi teuluoedd i ddatblygu cysylltiadau cryfach trwy chwarae gyda'i gilydd a thrwy barhau i fod yn egnïol yn gorfforol!

~ Dan Hilltout, Rheolwr Llwybr Pobl Ifanc Egnïol

Prosiectau Cyfredol

Hwyl i'r Teulu

Mae prosiect Hwyl i'r Teulu yn darparu cyfleoedd fforddiadwy i deuluoedd ddysgu sut y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol gyfrannu at ddatblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol.

Egnïol Gartref - Oedolyn

Rydym wedi ymuno â Met Active i lunio cyfres o fideos ymarfer corff cartref i oedolion!

Egnïol Gartref - Plentyn

Rydym wedi bod yn brysur yn dosbarthu 200 o becynnau Egnïol Gartref ledled Caerdydd i gadw plant yn egnïol yn ystod y cyfnod clo. Mae ceisiadau am becynnau bellach wedi cau.

Byddwch yn Gymdeithasol