Lansio Cystadleuaeth Marathon Mini Llundain TCS
Mae gen i ddiweddariad cyffrous gan Ddigwyddiadau Marathon Llundain ynghylch Marathon Mini Llundain TCS mewn Ysgolion . Am y tro cyntaf erioed, gall ysgolion gymryd rhan unrhyw bryd rhwng dydd Llun 23 Chwefror a dydd Gwener 1 Mai , gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd i ysgolion ei ffitio i'w calendrau prysur .
Y llynedd, cofrestrodd bron i hanner miliwn o blant i gerdded, loncian neu olwyno dwy filltir yn eu hysgol ar gyfer y TCS MLMIS. Cymerodd 18,358 o blant Cymru ran ar draws 106 o ysgolion. Yn 2026, y nod yw ysbrydoli mwy o blant i gymryd rhan!
Eleni, yr awdurdod lleol gyda'r nifer fwyaf o gofrestriadau ysgol (fel canran o'u cyfanswm ysgolion) fydd yn derbyn tlws Cymru! Rwyf wedi atodi niferoedd cofrestru'r llynedd fesul awdurdod lleol, ynghyd â sleid wybodaeth fer.
Am y tro, cadwch y dyddiad os gwelwch yn dda!